Y Pwyllgor Deisebau

 

Lleoliad:

Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd

 

 

 

Dyddiad:

Dydd Mawrth, 15 Gorffennaf 2014

 

 

 

Amser:

09.01 - 09.55

 

 

 

Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://www.senedd.tv/archiveplayer.jsf?v=cy_200000_15_07_2014&t=0&l=cy

 

 

Cofnodion Cryno:

 

 

 

Aelodau’r Cynulliad:

 

William Powell (Cadeirydd)

Russell George

Bethan Jenkins

Joyce Watson

 

 

 

 

 

Tystion:

 

 

 

 

 

 

Staff y Pwyllgor:

 

Steve George (Clerc)

Kayleigh Driscoll (Dirprwy Glerc)

Kath Thomas (Dirprwy Glerc)

Helen Roberts (Cynghorydd Cyfreithiol)

 

 

 

<AI1>

1   Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

 

Croesawodd y Cadeirydd bawb i gyfarfod y Pwyllgor. Ni chafwyd ymddiheuriadau.

 

</AI1>

<AI2>

2   Deisebau newydd

 

</AI2>

<AI3>

2.1     P-04-569 Rhowch y Gorau i Gynnal y Profion Cenedlaethol ar gyfer Plant Ysgolion Cynradd

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Addysg a Sgiliau i ofyn am ei farn am y ddeiseb.

 

</AI3>

<AI4>

2.2     P-04-570 Argaeledd Anghyfartal o Ran Triniaethau Nad Ydynt Wedi’u Harfarnu’n Genedlaethol Gan GIG Cymru

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn am ei farn ar y ddeiseb.

 

</AI4>

<AI5>

2.3     P-04-571 Trin Anemia Dinistriol

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn am ei farn am y ddeiseb.

 

</AI5>

<AI6>

2.4     P-04-572 Grantiau ar gyfer Gwrthsefyll Llifogydd

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, Diwylliant a Chwaraeon i ofyn am ei farn am y ddeiseb.

 

</AI6>

<AI7>

2.5     P-04-573 Galwad ar Lywodraeth Cymru i Ymchwilio i’r System Lesddaliadau Preswyl yng Nghymru

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y canlynol i geisio eu barn:

 

·         Y Gweinidog Tai ac Adfywio a

·         Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, ynghylch sawl un o awdurdodau lleol Cymru sydd yn yr un sefyllfa ag Abertawe.

</AI7>

<AI8>

2.6     P-04-574 Gwasanaethau Bws ym Mhorth Tywyn

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth i ofyn am ei barn am y ddeiseb.

 

</AI8>

<AI9>

2.7     P-04-575 Galw i Mewn Pob Cais Cynllunio ar Gyfer Cloddio Glo Brig

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at:

 

·         y Gweinidog Tai ac Adfywio i ofyn am ei farn am y ddeiseb; ac at

·         y deisebwyr i'w hysbysu am amserlen y Bil Cynllunio (Cymru).

</AI9>

<AI10>

2.8     P-04-576 Caniatáu i Blant yng Nghymru Gael Gwyliau Teuluol yn Ystod Tymor yr Ysgol

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at:

 

·         Y Gweinidog Addysg a Sgiliau

·         Comisiynydd Plant Cymru, a

·         Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

i geisio eu barn am y ddeiseb.

 

</AI10>

<AI11>

2.9     P-04-577 Adfer Cyllid i’r Prosiect Cyfleoedd Gwirioneddol

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, y Gweinidog Cyllid a'r Gweinidog Addysg a Sgiliau i ofyn am eu barn am y ddeiseb.

 

</AI11>

<AI12>

2.10   P-04-578 Gwaith Gostegu Sŵn ar yr M4, i’r Gorllewin o Gyffordd 32

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth i ofyn am ei barn am y ddeiseb.

 

</AI12>

<AI13>

3   Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol

 

</AI13>

<AI14>

3.1     P-04-541Cefnogaeth i'r Mentrau Iaith

 

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn i'r Prif Weinidog am ei ymateb i sylwadau'r deisebwyr.

 

</AI14>

<AI15>

3.2     P-04-548 Ailgyflwyno dosbarthiadau Cymraeg ym Mhrifysgol Rennes

 

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Addysg Uwch Cymru i weld a fyddai modd iddo gefnogi darpariaeth yn Rennes.

 

</AI15>

<AI16>

3.3     P-04-480 Mynd i'r afael â Safon Tai Myfyrwyr yn y Sector Preifat

 

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ystyried trefnu sesiwn dystiolaeth lafar gyda'r deisebydd, yn dibynnu ar yr ymateb gan y Gweinidog ynghylch P-04-529 Ombwdsmon Asiantaethau Gosod Tai ar gyfer Cymru.

 

</AI16>

<AI17>

3.4     P-04-529 Ombwdsmon Asiantaethau Gosod Tai ar gyfer Cymru

 

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i geisio barn y Gweinidog am ohebiaeth y deisebwyr. Yn dilyn ymateb y Gweinidog, cytunodd y Pwyllgor y byddai'n ystyried trefnu sesiwn dystiolaeth lafar gyda deisebwyr P-04-480 Mynd i’r afael â Safon Tai Myfyrwyr yn y Sector Preifat.

 

</AI17>

<AI18>

3.5     P-03-315 Deiseb i gael croesfan newydd dros Afon Dyfi

 

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i holi am farn y Gweinidog am ohebiaeth y deisebydd.

 

</AI18>

<AI19>

3.6     P-04-399 Arferion Lladd Anifeiliaid

 

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i aros am y wybodaeth ddiweddaraf gan y Gweinidog unwaith y bydd adroddiad y Pwyllgor Lles Anifeiliaid Fferm i Lywodraeth Cymru yn dod i law ac wedi ei ystyried.

 

</AI19>

<AI20>

3.7     P-04-433 Teledu Cylch Cyfyng mewn Lladd-dai

 

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i aros am y wybodaeth ddiweddaraf gan y Gweinidog unwaith y bydd adroddiad y Pwyllgor Lles Anifeiliaid Fferm i Lywodraeth Cymru yn dod i law ac wedi ei ystyried.

 

</AI20>

<AI21>

3.8     P-04-537 Plannu Coed i Leihau Llifogydd

 

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn i'r Gweinidog newydd am ei ymateb i sylwadau pellach y deisebwyr.

 

</AI21>

<AI22>

3.9     Gwella Gwasanaethau Niwrogyhyrol Arbenigol yng Nghymru

 

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

 

·         ysgrifennu at y Gweinidog i ofyn am y cynnydd o ran penodi olynydd i Dr Andrew Goodall fel Cadeirydd Rhwydwaith Niwrogyhyrol Cymru ac am y cynnydd o ran y materion eraill a nodwyd gan y deisebwyr; ac

·         yn gofyn am ymatebion gan y Byrddau Iechyd nad ydynt wedi ymateb i lythyr gwreiddiol y Pwyllgor.

</AI22>

<AI23>

3.10   P-04-545 Gweithdrefnau Bwrdd Iechyd Lleol Aneurin Bevan

 

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

 

·         ddangos ymateb y bwrdd iechyd lleol i'r Gweinidog, yn dilyn ei gais am hynny (gan gynnwys y wybodaeth am y cynllun rhithwir ar gyfer cleifion mewnol), a

·         cheisio barn y deisebwyr am yr ymatebion a gafwyd.

</AI23>

<AI24>

3.11   P-04-543 Dim cynnydd mewn ffioedd dysgu prifysgolion

 

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

 

·         ofyn i'r Gweinidog roi gwybod i'r Pwyllgor am ganlyniad adolygiad Syr Ian Diamond; a

·         gofyn i'r Tîm Clercio geisio sefydlu cyswllt i weithredu fel prif ddeisebydd ac wrth wneud hynny gofyn am eu barn am ymateb y Gweinidog.

</AI24>

<AI25>

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a mynegodd rhywfaint o bryder ynghylch rhai datganiadau yn llythyr y deisebwr.  Cytunodd y Pwyllgor i:

 

·         aros am ymateb llawn y deisebydd ac i ystyried yr holl bapurau mewn cyfarfod yn y dyfodol;

·         ceisio barn Cymorth i Ferched Cymru ar ohebiaeth y deisebydd; ac

·         yng ngoleuni'r ymatebion, gwneud penderfyniad ynghylch cau'r ddeiseb.

Cyn cau'r cyfarfod, atgoffodd y Cadeirydd yr Aelodau y bydd cyfarfod nesaf y Pwyllgor yn cael ei gynnal ar 23 Medi 2014.

 

</AI25>

<AI26>

3.12   P-04-540 Stopio rhagfarn ar sail rhyw mewn cam-drin domestig

 

Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod.

</AI26>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

 

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</ TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

 

</ COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>